Ymunwch â dwsin disglair o ddawnswyr proffesiynol gorau’r byd wrth iddyn nhw fynd ar daith y flwyddyn nesaf gyda Strictly The Professionals UK Tour swyddogol 2024.
Bydd y sioe fywiog hon yn arddangos dawn eithriadol 12 o hoff ddawnswyr proffesiynol y byd teledu, gyda chefnogaeth cantorion anhygoel a band byw, a hyn oll yn cael ei berfformio o fewn y byd rhyfeddol llawn hudoliaeth a disgleirdeb y mae’r dilynwyr yn gwirioni arno yn y gyfres boblogaidd.
Ymunwch â Dawnswyr Proffesiynol hynod dalentog Strictly – Dianne Buswell, Vito Coppola, Carlos Gu, Karen Hauer, Neil Jones, Nikita Kuzmin, Gorka Marquez, Luba Mushtuk, Graziano di Prima, Jowita Przystal, Michelle Tsiakkas a Nancy Xu – yn fyw ac yn agos wrth iddyn nhw ddiddanu cynulleidfaoedd gyda dawns o’r radd flaenaf, setiau disglair a choreograffi trawiadol, gydag ysgeintiad helaeth o hud a lledrith Strictly.
Wedi ei gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Creadigol Strictly, Jason Gilkison, bydd Strictly The Professionals yn syfrdanu ac yn swyno cynulleidfaoedd gyda dawns a choreograffi o’r safon uchaf bosib.
Peidiwch â cholli eich cyfle i weld cymaint o’ch hoff ddawnswyr yn dod ynghyd i berfformio mewn ensemble theatrig a fydd yn eich cyfareddu.