Ar ôl llwyddiant ysgubol eu ‘Him and Me Tour’, mae’r pâr poblogaidd, ANTON DU BEKE a GIOVANNI PERNICE, yn ôl gyda’u taith fyw NEWYDD SBON – ‘TOGETHER’!
Bydd ANTON a GIOVANNI o’r rhaglen Strictly Come Dancing yn rhoi gwledd i chi o fwy o hwyl, mwy o ddawnsio, mwy o ganu a hyd yn oed mwy o adloniant.
Bydd y sioe yn brofiad hudolus i bob oedran – yn arddangos talentau anhygoel y ddau a’u perthynas arbennig ar lwyfan.
Gyda chasgliad o ddawnsiau syfrdanol, coreograffi arloesol, a chymysgedd llyfn o arddulliau dawnsio traddodiadol a chyfoes, yn ogystal â theatr gerddorol, mae ‘ANTON DU BEKE and GIOVANNI PERNICE – TOGETHER’ yn sicr o fod yn noson fythgofiadwy o adloniant.